Judith Samuel

Ffocws ar Artist: Judith Samuel

Dywedwch ychydig wrthym am eich gwaith!
Ar hyn o bryd dw i'n gweithio'n ddiwyd ar fy mhrosiect 'City of Ottawa - her last berth', ar ôl derbyn grant - a dyddiad cau - gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rhaid i fi orffen erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Mae'n swnio fel amser hir, ond mae'r misoedd yn pasio'n gyflym!  Mae'r prosiect yn seiliedig ar hen long hwylio a ddrylliodd yn harbwr y Rhyl.  Mae yna rywfaint o wybodaeth am y llong a dw i'n treulio llawer o amser mewn Archifdai yn ceisio rhoi'r cyfan at ei gilydd a llenwi bylchau.  Y nod yw cael rhywfaint o ddeunydd ysgrifenedig ond i gynhyrchu hefyd arddangosfa o baentiadau - hwyliodd y llong o gwmpas y byd, ac roedd anghydfodau ar ei bwrdd a marwolaethau, lladradau, gwrthdrawiadau, pob math o bethau dramatig!   Mae'r prosiect yn rheoli fy mywyd ar hyn o bryd.
Beth neu bwy sy'n eich ysbrydoli?
Man cychwyn ar gyfer y prosiect hwn oedd peintiadau morwrol gwych Turner, ond o ran artistiaid morwrol sydd ar dir y byw, mae Robert Brindley yn f'ysbrydoli.  Mae'r môr yn gryn ysbrydoliaeth i mi, ymhob tywydd, y lliwiau, y llanw, a llongau hefyd - llongau pysgota prysur nid llongau snobyddlyd y llynges!
Beth yw eich hoff ddeunydd?
Dwi wrth fy modd yn gweithio ag olew, yn enwedig wrth beintio ar bren.
Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn celf? Beth yw'ch atgof celfyddydol cynharaf?
Symud i Lundain pan yn fyfyriwr, mwy na thebyg, a gweld yr holl baentiadau mawr yn y cnawd. Fel llawer o bethau sy'n annwyl iawn i mi bellach, roeddwn i'n casáu celf yn yr ysgol.
Beth fyddai eich 'superpower' artistig?
Byddai bod yn well peintiwr yn bŵer arbennig i mi.
Pa arlunydd byw ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Kurt Jackson, Len Tabner
Pe na bai arian yn bwysig, pa weithiau celf hoffech chi eu prynu?
Euan Uglow, Graham Sutherland, Kurt Jackson ...
Pa grŵp o artistiaid (byw neu farw) fyddech chi'n eu gwahodd i'r parti swper delfrydol?
Mae hynny'n syniad gwallgo'!  Yr holl egos yna wrth un bwrdd cinio?
Oes gennych chi bleserau sy'n gwneud i chi deimlo'n euog?

Ble welwch chi'ch hun ymhen 10 mlynedd?
Yn peintio o hyd, gobeithio, ond yn well.  Symud allan o'r hyn sy'n gyfarwydd a hawdd.
Beth ydych chi'n ei hoffi fwyaf am eich stiwdio?
Mae'n gynnes, yn olau ac yn anniben, a dw i ddim yn gorfod tacluso ar fy ôl.  Mae popeth yn ei le ac yn gyfleus.  Cyn hynny roedd fy stiwdio mewn garej gwyntog, felly mae hwn yn foethus tu hwnt.
Unrhyw dafarndai/caffis/bwytai gerllaw?
Mae yna far coffi grêt o'r enw Amber yn y dref, sydd hefyd yn gwneud brechdanau ffres, ac mae Liffeys yn gwneud prydau iachus hyfryd (a rhai sy' ddim cweit mor iach hefyd!).
Oes yna deithiau cerdded braf neu atyniadau gwledig yn yr ardal?
Ar wahân i'r traeth a'r môr hyfryd, mae yna harbwr a thaith gerdded i fyny'r aber sy'n ddelfrydol ar gyfer adarwyr.  Hefyd, mae yna lwybr beicio ar hyd yr arfordir.
Mae tudalen Helfa Gelf artist i'w gweld yn y fan hon.